SL(6)551 - Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) (Diwygio) 2024

Cefndir a Diben

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i is-ddeddfwriaeth yn ymwneud â Gwasanaethau Fferyllol yng Nghymru i:

·         ddiwygio’r telerau gwasanaeth presennol ar gyfer Contractwyr Fferylliaeth Gymunedol y GIG;

·         ehangu'r rheoliadau presennol ar gyfer gweinyddu, cyflenwi a darparu meddyginiaethau ac offer gan fferyllwyr cymunedol i gynnwys archebion wedi'u llofnodi a ddyroddir gan optometryddion sy'n gweithio yn y GIG yng Nghymru fel rhan o Wasanaethau Offthalmig Cyffredinol Cymru (WGOS) a gyflwynwyd yn 2023;

·         cyflwyno rheoliadau i ganiatáu i fferyllfeydd a meddygon fferyllol y GIG yng Nghymru weinyddu cyffuriau yn eu pecynnau gwreiddiol.

Gweithdrefn

Negyddol.

Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd. Caiff y Senedd ddirymu'r Rheoliadau o fewn 40 diwrnod (ac eithrio unrhyw ddyddiau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu neu (ii) mewn cyfnod o doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y’u gosodwyd gerbron y Senedd.

Materion technegol: craffu

Nodwyd y 15 pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn:

1.    Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol

Mae rheoliad 1(3) o'r Rheoliadau hyn yn nodi bod “Rheoliad 8” yn dod i rym ar 1 Ionawr 2025. Fodd bynnag, dim ond 4 rheoliad ac un Atodlen sydd yn y Rheoliadau hyn. Ymddengys felly fod rheoliad 1(3) yn gamgymeriad.

Yn yr un modd, mae rheoliad 1(4) yn nodi hynny y daw “pob rheoliad arall” dod i rym ar ddyddiad diweddarach, sef 1 Ebrill 2025. Oherwydd y ddarpariaeth a nodir yn rheoliad 1(3), byddai hyn yn golygu y byddai darpariaethau ynghylch teitl a chymhwysiad tiriogaethol y Rheoliadau hyn, a’r ddarpariaeth dod i rym yn rheoliad 1(3), yn dod i rym ar 1 Ebrill 2025.  Mae hyn yn anymarferol gan y byddai angen dod â’r darpariaethau hyn i rym ar yr un pryd neu cyn y rheoliad a nodir (er yn gamgymeriad) yn rheoliad 1(3).

2.    Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol

Yn rheoliad 2(2) o’r Rheoliadau hyn, dylid nodi bod diffiniadau i’w mewnosod yn rheoliad 2(1) o Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2020  (pwyslais wedi’i ychwanegu), yn hytrach na chyfeirio’n gyffredinol at “rheoliad 2”, er eglurder drafftio.

3.    Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol

Yn rheoliad 2(2) o'r Rheoliadau hyn, mae diffiniad o “Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig” yn cael ei fewnosod i reoliad 2 o Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2020. Fodd bynnag, ni ddefnyddir y diffiniad yn unman arall yn y Rheoliadau hyn nac yn nhestun presennol Rheoliadau 2020 ac, fel y cyfryw, nid yw’n glir pam yr ystyriwyd bod angen mewnosod y diffiniad hwn.

4.    Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol

Yn rheoliad 2(2) o'r Rheoliadau hyn, mae diffiniad ar gyfer termau “meddyginiaeth restredig offthalmig” a “cyfarpar rhestredig offthalmig” yn cael eu mewnosod i reoliad 2 o Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2020. Fodd bynnag, yn hytrach na'r termau diffiniedig hyn, mae’r termau “meddyginiaeth restredig” a “chyfarpar rhestredig”, nad ydynt wedi’u diffinio at ddibenion Rheoliadau 2020, yn cael eu defnyddio yn y testun sydd i’w fewnosod yn Atodlen 5 i Reoliadau 2020 gan reoliad 3 o’r Rheoliadau hyn.

Gofynnir i Lywodraeth Cymru egluro’r bwriad drafftio y tu ôl i ddefnyddio’r termau gwahanol hyn, gan ei bod yn ymddangos y byddai wedi bod yn gliriach defnyddio’r termau diffiniedig yn y diwygiadau i Atodlen 5 i Reoliadau 2020.

5.    Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â’i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol.

Yn rheoliad 2(2) o'r Rheoliadau hyn, mae’r diffiniad y “Rhestr Gyfunol Offthalmig” yn cyfeirio at y rhestr y mae’n ofynnol i Fyrddau Iechyd Lleol ei llunio yn rhinwedd rheoliad 10 o Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig) (Cymru) 2023” (ychwanegwyd pwyslais).

Gofynnir i Lywodraeth Cymru egluro a yw’r “rhestr” yn gyfeiriad at y “rhestr gyfunol” y darperir ar ei chyfer yn rheoliad 10 o Reoliadau 2023, o ystyried bod rheoliad 10 hefyd yn cyfeirio at y “rhestr offthalmig” a’r “rhestr atodol”, sydd gyda'i gilydd yn gwneud y “rhestr gyfunol”.

6.    Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol

Yn rheoliad 3(3) o’r Rheoliadau hyn, ym mharagraff newydd 5A(3)(a) o Atodlen 5 i Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2020, mae cyfeiriad anghywir at “paragraff (4)”, y dylid ei ddisgrifio fel “is-baragraff (4)” yn lle hynny. Mae’r un gwall yn codi ym mharagraff 5A(5) newydd o Atodlen 5 i Reoliadau 2020, lle dylai’r cyfeiriad at “paragraff (4)” gael ei ddisgrifio fel “is-baragraff (4)”.

Gallai hyn beri dryswch i’r darllenydd oherwydd bod darpariaethau fel is-baragraffau (6), (7) ac (8) ym mharagraff newydd 5A Atodlen 5 i Reoliadau 2020 yn nodi “y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddo”, “Yn y paragraff hwn” a “o dan y paragraff hwn” yn y drefn honno pan ymddengys eu bod yn cyfeirio at y paragraff 5A newydd o Atodlen 5, yn hytrach nag at is-baragraffau (6), (7) ac (8) yn unig.

7.    Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol

Yn rheoliad 3(3) o’r Rheoliadau hyn, ym mharagraff newydd 5A o Atodlen 5 i Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2020, mae sawl cyfeiriad at “cyffuriau” a “cyfarpar”. Mae “cyffuriau” yn derm diffiniedig yn rheoliad 2(1) o Reoliadau 2020, yn ogystal â “cyfarpar”.

Fodd bynnag, os y bwriedir i’r termau heb eu diffinio “cyfarpar rhestredig” a “meddyginiaeth restredig”, a ddefnyddir hefyd mewn sawl man ym mharagraff newydd 5A o Atodlen 5 i Reoliadau 2020, gael ystyr mwy cul na “cyfarpar” a “cyffur”, mae angen eglurder ynghylch a fwriadwyd i “cyfarpar rhestredig” a “meddyginiaeth restredig” cael eu defnyddio’n gyson drwy gydol paragraff newydd 5A. Fel arall, efallai y byddai wedi bod yn ddefnyddiol diffinio'r termau “cyfarpar rhestredig” a “meddyginiaeth restredig” at ddibenion Rheoliadau 2020 (neu ran ohonynt) i wahaniaethu eu hystyr yn gliriach mewn cyferbyniad â’r termau diffiniedig “cyfarpar” a “cyffuriau”.

8.    Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol

Yn rheoliad 3(5) o’r Rheoliadau hyn, yn yr is-baragraffau newydd (8B) ac (8C) a fewnosodir i baragraff 9 o Atodlen 5 i Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2020, defnyddir y term “meddyginiaeth a roddir ar bresgripsiwn yn unig”. Er y cydnabyddir bod Rheoliadau 2020 eisoes yn cyfeirio at y term hwn mewn sawl man, nid yw wedi’i ddiffinio at ddibenion Rheoliadau 2020 a gallai’r Rheoliadau hyn fod wedi bod yn fecanwaith defnyddiol i ddiffinio’r term hwnnw er eglurder.

9.    Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â’i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol.

Yn rheoliad 3(5) o’r Rheoliadau hyn, yn is-baragraff (8C)(b) newydd a fewnosodir i baragraff 9 o Atodlen 5 i Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2020, cyfeirir at y “fferyllydd cofrestredig sy’n gwneud y ddarpariaeth neu’n goruchwylio’r ddarpariaeth yn uniongyrchol…” (ychwanegwyd pwyslais). Fodd bynnag, yn rheoliad 3(4) o'r Rheoliadau hyn, mae'r ymadrodd “uniongyrchol” yn cael ei hepgor o'r ymadrodd “…dan oruchwyliaeth uniongyrchol fferyllydd cofrestredig” (pwyslais wedi’i ychwanegu) mewn cyd-destun tebyg ym mharagraff 9(2) o Atodlen 5 i Reoliadau 2020.

Gofynnir i Lywodraeth Cymru egluro a oedd bwriad i’r darpariaethau hyn, sy’n ymddangos mewn cyd-destun tebyg, fod ag ystyr gwahanol drwy ddefnydd neu fel arall o’r termau “uniongyrchol” neu “yn uniongyrchol”.

10. Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol

Yn rheoliad 3(14)(a) o’r Rheoliadau hyn, yn y testun newydd a fewnosodir i baragraff 23(6)(a) o Atodlen 5 i Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2020, cyfeirir at “is-baragraff (6)(c)”. Fodd bynnag, mae’r croesgyfeiriad hwn yn anghywir oherwydd nad oes is-baragraff (6)(c) ym mharagraff 23 o Atodlen 5 i Reoliadau 2020, ac nid yw’r ddarpariaeth honno wedi’i mewnosod gan y Rheoliadau hyn ychwaith.

11. Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol

Yn rheoliad 3(16) o’r Rheoliadau hyn, yn is-baragraff newydd (6B) a fewnosodir ym mharagraff 23 o Atodlen 5 i Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2020, dylai’r cyfeiriad ar y diwedd at “paragraff (6)” fod “is-baragraff (6)”. Gallai hyn beri dryswch i’r darllenydd gan fod yr un ddarpariaeth yn cyfeirio’n gywir yn gynharach at “is-baragraff (2)”, sydd ar yr un lefel â “paragraff (6)”.

12. Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â’i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol.

Yn rheoliad 3(18) o’r Rheoliadau hyn, ym mharagraff 28(3)(a)(iv) newydd o Atodlen 5 i Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2020, defnyddir y gair "dylai" wrth gyfeirio at ofyniad.

Er y cydnabyddir bod y gair "dylai" yn cael ei ddefnyddio mewn sawl man yn nhestun presennol Rheoliadau 2020 (fel ym mharagraff 28(3)(a)(i) a (iv) o Atodlen 5, a pharagraff 17(3)(a)(i) a (iv) o Atodlen 6), gofynnir i Lywodraeth Cymru egluro a ddylid bod wedi defnyddio’r gair “rhaid” mewn perthynas â'r gofyniad.

13. Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol

Ym mharagraff 2 o'r Atodlen i'r Rheoliadau hyn, yn y diffiniad newydd o “optometrydd cymhwysol” sydd i'w fewnosod yn rheoliad 2 o Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig) (Cymru) 2023, cyfeirir at “Restr Gyfunol Offthalmig” Bwrdd Iechyd Lleol. Fodd bynnag, nid yw’r term hwn wedi’i ddiffinio at ddibenion Rheoliadau 2023.

Mae’r term “rhestr gyfunol” yn cael ei ddiffinio at ddibenion Rheoliadau 2023 gan reoliad 2 o Reoliadau 2023. Felly, mae'n ymddangos mai’r term “rhestr gyfunol” y dylid bod wedi’i ddefnyddio yn y diffiniad newydd o “optometrydd cymhwysol” ym mharagraff 2 o'r Atodlen i'r Rheoliadau hyn.

14. Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol

Ym mharagraff 3 o'r Atodlen i'r Rheoliadau hyn, yn y rheoliad 4A(1) newydd o Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig) (Cymru) 2023, mae'n nodi “Bydd optometrydd cymhwysol yn archebu…” (ychwanegwyd pwyslais). Fodd bynnag, mae'r defnydd o "yn" yn anghyson â’r rheoliad 4B newydd a ganlyn o Reoliadau 2023, a fewnosodir hefyd gan baragraff 3 o’r Atodlen i’r Rheoliadau hyn, sy’n nodi Ni chaiff optometrydd cymhwysol archebu…”.

Felly, nid yw'n glir a oes bwriad i’r termau gwahanol a ddefnyddir gyfleu ystyr gwahanol.

15. Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol

Ym mharagraff 3 o'r Atodlen i'r Rheoliadau hyn, yn y rheoliad 4B newydd o Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig) (Cymru) 2023, mae'n nodi na chaiff optometrydd cymhwysol archebu “cyffuriau” neu “teclynnau” (ychwanegwyd pwyslais). Fodd bynnag, yn wahanol i Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2020, nid yw’r termau hynny wedi’u diffinio at ddibenion Rheoliadau 2023.

Mae’r rheoliad 4A newydd yn Rheoliadau 2023, sydd hefyd wedi’i fewnosod gan baragraff 3 o’r Atodlen i’r Rheoliadau hyn, yn cyfeirio at optometrydd cymhwysol yn archebu “meddyginiaethau rhestredig offthalmig” neu “declynnau rhestredig offthalmig”, sy’n dermau diffiniedig newydd a fewnosodir yn rheoliad 2 o Reoliadau 2023 gan baragraff 2 o’r Atodlen i’r Rheoliadau hyn.

Nid yw’n glir felly a ddylai’r rheoliad 4B newydd o Reoliadau 2023 hefyd ddefnyddio’r termau diffiniedig newydd, yn hytrach na’r geiriau “cyffuriau” neu “declynnau”, nad ydynt wedi’u diffinio at ddibenion Rheoliadau 2023.

Rhinweddau: craffu    

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.

Trafodaeth y Pwyllgor

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn yn ei gyfarfod ar 9 Rhagfyr 2024 ac mae'n cyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd uchod.